Cwestiwn
1 - Yn eich barn
chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y
deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
|
Cytuno'n
gryf
Mae'r
deilliannau’r cynlluniau yn briodol, yn addas i'r diben ac yn
ffocysu AALl ar flaenoriaethau ieithyddol
Mae rhai
deilliannau yn anodd eu heffeithio gan eu bod yn rhai hir dymor
pell (ee cynyddu mwy o ddysgwyr 7 oed / 13 mlwydd oed– mae'r
targed 7 mlynedd yn rhy bell er mwyn mesur effaith). Sut gellir
mesur cynnydd tymor byr / tymor canol? A ddylid mesur niferoedd
dysgwyr 4 oed i ateb hyn?
Mae cynllunio
strategol wedi bod yn wendid mewn AALl ac mae hyn wedi arwain at
wasgedd o ran niferoedd neu ddiffyg darpariaeth. Mewn rhai
achosion mae wedi arwain at ddiffyg tŵf, ble mae AALl
eraill wedi gwneud cynnydd tuag at y targedau
Yn anffodus gan
nad oes canlyniad amlwg i osgoi cyrraedd targedau mae sefyllfa yn
gallu datblygu nad yw'r cynlluniau yn ymyrryd ar lefel strategol i
dyfu'r sector
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir
datrys hyn?
|
Dylai fod monitro mwy manwl o'r
targedau
Dylai fod atebolrwydd yn dilyn diffygion o ran
cynnydd isel
|
Cwestiwn 2
- Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r
newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud
hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw
gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
Prif drafferth y
cynlluniau yw nad ydynt yn cael eu monitro yn ddigon tynn –
mae targedau’r cynlluniau yn canolbwyntio ar gynnydd tymor
hir dymor.
Dylai LlC wneud
awdit o ble mae cynnydd o ran y ddarpariaeth / niferoedd ar draws
Cymru ac a yw hynny wedi'i adlewyrchu yn y cynlluniau. Os oes
ardaloedd o ddiffyg cynnydd / darpariaeth – dylid cael system
o atebolrwydd i AALl sy'n arwain yn yr ardaloedd hynny
Gan fod Grant Y
Gymraeg mewn Addysg bellach wedi ei gyfuno a Grant Effeithiolrwydd
Ysgolion (EIG) – sut yn union yr ariennir y Cynlluniau?
Mae'r diffyg cysylltiad yn mynd i arwain at ddiffyg
atebolrwydd. Gan y dyrennir arian EIG i Gonsortia – sut
mae hyn yn clymu gyda Cynlluniau Y Gymraeg AALl unigol?
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant
wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?
|
Gweler uchod
|
Cwestiwn 3
- Beth yw eich barn
ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno
adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a
Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
Nid oes
rôl monitro digon
tynn.
Mae diffyg llinyn
strategol rhwng arian y grant (EIG) a Chynlluniau strategol y
Gymraeg, Consortia ac AALl
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn,
sut y gellir eu datrys?
|
Dylid sicrhau ariannu digonol o'r cynlluniau ar
wahan.
Mae pryder nad yw pob AALL yn ariannu Addysg
Cyfrwng Cymraeg ar yr un lefel nac yn ôl
gofynion y sector
A ddylid ariannu tŵf
datblygiad Addysg Cyfrwng Cymraeg (oedran Meithrin / Derbyn) yn fwy
hael i sicrhau tŵf?
|
Cwestiwn 4
- Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu
rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw;
Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?
|
Mae anghydweld
yma.
Polisi
teithio ôl 16?
Polisi cludiant am
ddim cyn 4 oed?
Niferoedd Cyfrwng
Cymraeg Dechrau'n Deg – isel iawn mewn rhai AALl
Arian Ysg 21ain
Ganrif – yn sicrhau tŵf o'r oedran cywir
/ ifanc?
Hyrwyddo’r
Gymraeg yn anffurfiol - cyllido ar draws sectorau
Polisïau
mynediad / cynhwysiant – mae darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg
yn isel – a yw'r Cynlluniau strategol yn uwch oleuo hyn o dan
y deilliannau ? os nad yw? pam? a beth a wneir gyda'r
wybodaeth hon?
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn,
sut y gellir eu datrys?
|
ADY / Cynhwysiant –
darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy Gymru – a yw'r cynlluniau yn
ddigon heriol yn ôl
y gofyn yn y maes hwn?
|
Cwestiwn 5
- Yn eich barn chi,
a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er
enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm
isel?
|
|
Beth yw'r
niferoedd o safleoedd Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg?
A yw tâl
teithio o oedran cyn ysgol yn lleihau a rhwystro
tŵf
A yw diffyg o ran
darpariaeth lleol i blant ifanc yn lleihau / rhwystro
tŵf?
A yw codi
tâl teithio addysg ôl 16 yn atal /
gosod rhwystrau i ddisgyblion gael mynediad a pharhau oddi fewn i'r
sector ar ôl 16?
A yw'r cynlluniau
yn ddigon miniog i ateb y galw yma?
|
|
Os ydych o’r farn nad yw
canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?
|
|
Ariannu lleoedd Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg ar
wahân i bob AALl
Ymchwil i ariannu teithio am ddim i blant cyn 4
mlwydd oed o fewn y sector
Ymchwil i effaith cost tâl ar
deithio ôl
16 mewn ardaloedd o Gymru
|
|
Cwestiwn 6
- Os byddai'n rhaid
ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau
rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?
|
1. Sicrhau monitro cynlluniau mwy gofalus ac
atebolrwydd o dargedau tymor byr / canol (yn ogystal a targedau
tymor hir)
2. Ariannu teg o Addysg Cyfrwng Cymraeg –
fformiwla gytûn
/ argymhelliad cytûn
gan LlC (gyda diwedd Grant Y Gymraeg mewn Addysg ac ariannu
"ring-fenced" cyfrwng Cymraeg – gall hyn effeithio ar
gynllunio a darpariaeth cyfrwng Cymraeg
|
Cwestiwn 7
- A oes gennych
unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd
amdanynt yn y cwestiynau penodol?
|
Mae sefydlu'r Cynlluniau gyda’r
argymhelliad i sefydlu Fforymau Addysg Cyfrwng Cymraeg yn lleol
wedi bod yn gam pwysig gan LlC
Mae hyn wedi creu trafodaeth strategol bwysig o
fewn AALl – y cam nesaf yw sicrhau fod y drafodaeth yn
effeithio ar bolisi / cynllunio strategol
Dylid sicrhau fod arweiniad rheolaeth uchel o
fewn AALl i'r cynlluniau
Dylid pennu cyfrifoldeb o fewn cabinet AALl yn
atebol i'r cynllun
Diolch am y cyfle i ymateb.
|